Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 12 Chwefror 2019
Amser: 09.00 - 10.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5287
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David J Rowlands AC (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC Leanne Wood AC |
Tystion: |
Deryk Cundy, SOSPPAN John Prosser, SOSPPAN Louvain Roberts, SOSPPAN |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Ross Davies (Dirprwy Glerc) Kathryn Thomas (Dirprwy Glerc) Sam Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i:
· ddarparu'r sylwadau pellach a gafwyd gan y deisebydd;
· gofyn iddi ddarparu asesiad o ddigonolrwydd dyletswyddau cyfreithiol cyfredol mewn perthynas ag atal a mynd i'r afael â bwlio mewn ysgolion; a
· gofyn am linell amser ar gyfer pryd y bydd adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ganllawiau gwrth-fwlio ar gael.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:
· aros am farn y deisebwyr ar yr ymateb a ddarparwyd gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip cyn ystyried a ddylid cymryd camau pellach ar y ddeiseb; ac
Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb gan y deisebydd i'r wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd gan y Dirprwy Weinidog cyn ystyried camau pellach.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru a chytunodd i barhau i gadw golwg ar y sefyllfa nes bod Llywodraeth Cymru yn ymateb yn ffurfiol i'r adolygiad annibynnol a gynhaliwyd gan Dr Jacinta Tan.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc a chytunodd i barhau i gadw golwg ar y sefyllfa nes bod Llywodraeth Cymru yn ymateb yn ffurfiol i'r adolygiad annibynnol a gynhaliwyd gan Dr Jacinta Tan.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a chytunodd i roi cyfle i’r bobl sydd wedi cysylltu â'r Pwyllgor ynglŷn â’r mater hwn yn flaenorol roi eu barn, ac i ysgrifennu at Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda i ofyn am eu barn ar y cynlluniau a amlinellwyd gan y Bwrdd Iechyd a dyfodol gwasanaethau iechyd i Sir Benfro.
Cytunodd y Pwyllgor i aros am ddiweddariad pellach gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas ag adolygiad o fuddiannau'r cynllun a’r fframwaith taliadau disgresiwn cyn ystyried y ddeiseb ymhellach, ac i ysgrifennu eto yn ystod y Pasg os na dderbynnir hwn.
Nododd y Pwyllgor y wybodaeth a ddarparwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r deisebydd, a chytunodd i ystyried y ddeiseb eto yn dilyn dadl y Cyfarfod Llawn a drefnwyd ar gyfer 6 Mawrth 2019.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn:
· a yw hi o'r farn bod y gwahaniaeth rhwng trwyddedu a'r gyfundrefn reoleiddiol yng Nghymru a Lloegr yn peri risg i les anifeiliaid yng Nghymru, yn enwedig mewn perthynas â'r fasnach anifeiliaid anwes egsotig; ac
· a yw'n bwriadu ystyried rhinweddau mabwysiadu rhai neu bob un o'r gwahanol newidiadau polisi a wnaed yn Lloegr gan y Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Cynnwys Anifeiliaid) (Lloegr) 2018.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru a chytunodd i:
· ofyn am farn y grŵp ymgyrchu ar y datblygiadau diweddaraf cyn ystyried a all gymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb; ac
· ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru i ofyn iddynt ddarparu amserlenni dangosol ar gyfer cynnal yr ailasesiad.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail mai ychydig o gamau pellach y gellid eu cymryd ar hyn o bryd, yn wyneb y ffaith bod y Cynulliad wedi cytuno ar Gyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019/20 ar 15 Ionawr 2019 a bod y Pwyllgor Cyllid a phwyllgorau pwnc eraill wedi craffu arni.
Yn sgil datblygiadau diweddar sy'n dangos nad yw'r cynnig i adeiladu carchar newydd ym Maglan yn mynd rhagddo, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a llongyfarch y deisebwyr ar lwyddiant eu hymgyrch.
Derbyniwyd y cynnig.
Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi adroddiad interim o'r dystiolaeth a gafwyd cyn gynted â phosibl ac i wahodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor cyn gynted â phosibl.
Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi'r adroddiad drafft.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Deryk Cundy, John Prosser a Louvain Roberts o SOSPPAN.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda i ofyn am ymateb i rai o'r materion a godwyd.